Dogfennau Ychwanegol
Mae angen i chi anfon dogfennau atodol yn yr achosion canlynol.
Teitl ar eich pasbort
Gallwch gynnwys:
- teitlau proffesiynol - er enghraifft, meddyg, barnwr, gweinidog crefyddol, athro, Cwnsler y Brenin, neu Ynad Heddwch os ydych chi’n ynad
- anrhydeddau neu arwisgiad milwrol
Bydd angen i chi anfon dogfen neu lythyr sy’n rhoi manylion y teitl.
Bydd eich teitl ar dudalen ‘arsylwadau’ eich pasbort - ni fydd yn rhan o’ch enw, ac eithrio os yw’n deitl bendefigaeth, er enghraifft marchog, bonesig neu arglwydd.
Gwladolyn Prydeinig Dramor (BNO)
Os ydych chi’n adnewyddu eich pasbort Gwladolyn Prydeinig Dramor (BNO), anfonwch y canlynol:
- copi lliw o ddwy ochr eich cerdyn hunaniaeth barhaol Hong Kong
pasbort Person dan Amddiffyniad Prydain
Os ydych chi’n ymgeisio am basbort Person o dan Amddiffyniad Prydain, anfonwch y canlynol:
- unrhyw basbortau o wledydd eraill
- datganiad wedi ei lofnodi yn cadarnhau nad ydych wedi dod yn ddinesydd eich gwlad enedigaeth ar unrhyw adeg ers cyhoeddi eich hen basbort, nac wedi sicrhau unrhyw genedligrwydd arall ers 16 Awst 1978
Newid rhywedd
Os ydych chi’n newid y rhywedd ar eich pasbort, anfonwch 1 o’r canlynol:
- tystysgrif cydnabod rhywedd
- tystysgrif geni neu fabwysiadu newydd yn dangos eich rhywedd caffaeledig
- llythyr gan eich meddyg neu ymgynghorydd meddygol yn cadarnhau bod eich gweithred i ailbennu’ch rhywedd yn debygol o fod yn barhaol
I newid rhywedd plentyn ar basbort, anfonwch 1 o’r canlynol:
- datganiad wedi ei lofnodi gan bawb â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, yn rhoi eu caniatâd i’r newid rhywedd
- gorchymyn llys yn caniatáu’r newid rhywedd
Hen basbort a gyhoeddwyd am 1 flwyddyn neu lai
Os cyhoeddwyd eich hen basbort am 1 flwyddyn neu lai oherwydd nad oeddech chi’n gallu cyflwyno’r holl ddogfennau gofynnol, anfonwch y canlynol:
- y dogfennau na alloch chi eu cyflwyno gyda’ch cais blaenorol
Newid mewn statws cenedligrwydd Prydeinig
Os ydych chi’n newid eich statws cenedligrwydd Prydeinig yn eich pasbort i ddinesydd Prydain, bydd angen i chi anfon tystiolaeth o ddinasyddiaeth Brydeinig. Er enghraifft, eich tystysgrif brodori neu gofrestriad, neu ddogfennau’ch rhieni.
Hawlio cenedligrwydd Prydeinig yn seiliedig ar wasanaeth i’r goron neu gymuned
Os yw eich hawl i genedligrwydd Prydeinig yn seiliedig ar wasanaeth i’r goron neu gymuned gan eich rhieni, anfonwch y canlynol:
- manylion llawn gwasanaeth eich rhieni i’r goron neu gymuned, gyda dogfennau gan gyflogwr eich rhieni sy’n cefnogi’r manylion hynny
Os ganed dramor ond mabwysiadwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Ionawr 1983
Anfonwch y canlynol:
- tystysgrif geni neu fabwysiadu lawn y plentyn (yn dangos manylion y plentyn a’r rhieni)
- tystiolaeth o hawl y rhiant mabwysiadol i genedligrwydd Prydeinig trwy ddarparu tystysgrif geni neu fabwysiadu neu dystysgrif brodori neu gofrestru’r Deyrnas Unedig y rhiant
- os yw’r mabwysiadu yn fabwysiad ar y cyd, rydym angen tystiolaeth o hawliad y tad mabwysiadol i genedligrwydd Prydeinig.
Os mabwysiadwyd dramor ac nad oes ganddynt dystysgrif brodori neu gofrestru
Anfonwch y canlynol:
- tystysgrif mabwysiadu (ble mae Confensiwn yr Hag yn weithredol, dylai’r dystysgrif ddatgan yn glir i’r mabwysiad ddigwydd dan Gonfensiwn yr Hag dan Erthygl 17 o’r Confensiwn ar Fabwysiadu Trawswladol)
- hawliad un mabwysiadwr i genedligrwydd Prydeinig trwy ddarparu ei dystysgrif geni neu frodori neu gofrestru
- tystiolaeth bod y mabwysiadwr yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig (neu’r ddau fabwysiadwr yn achos mabwysiadu ar y cyd). Preswylio fel arfer yw eu cartref arferol, y man ble mae ganddynt y cysylltiadau personol cryfaf.
Hawliau Cyfamod
Gwiriwch y dogfennau mae angen i chi ddarparu os ydych chi’n ymgeisio dan Hawliau Cyfamod.
Os cawsoch eich geni yn y Philipinau, neu mae eich rhieni wedi priodi neu ysgaru ac mae ganddynt gysylltiadau â’r Philipinau
Gwiriwch y dogfennau mae angen i chi ddarparu os ydych chi’n ymgeisio am Basbort cyntaf y Deyrnas Unedig a naill ai:
- y cawsoch eich geni yn y Philipinau
- mae eich rhieni wedi priodi neu ysgaru ac mae ganddynt gysylltiadau â’r Philipinau
Plant a aned trwy fenthyg croth
Gwiriwch y dogfennau mae angen i chi ddarparu os cawsoch eich geni trwy fenthyg croth.
Mynnwch help
Cysylltwch â’r Llinell Gyngor Pasbortau os nad ydych chi’n siŵr pa ddogfennau fyddwch chi angen neu os yw’ch amgylchiadau yn fwy cymhleth.