Cadarnhau hunaniaeth rhywun
- Pwy all gadarnhau hunaniaeth rhywun
- Sut i gadarnhau hunaniaeth rhywun
Sut i gadarnhau hunaniaeth rhywun
Ar gyfer ceisiadau gyda llun digidol, gallwch gadarnhau pwy yw rhywun ar-lein. Nid oes angen i chi lofnodi llun printiedig.
Beth sydd angen i’r ymgeisydd ei wneud
Fel yr ymgeisydd, bydd angen i chi:
- Wirio pwy all gadarnhau pwy ydych chi
- Cysylltwch â’r person cyn rhoi ei fanylion i Swyddfa Basbort EF.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ei gyfeiriad/ei chyfeiriad a dyddiad geni, yn cynnwys y flwyddyn
- Mewngofnodwch i’ch cais i nodi enw ac e-bost yr unigolyn
Os ydych chi’n gwneud cais ar gyfer plentyn, rhaid i’r unigolyn allu cadarnhau ble ganed y plentyn yn ogystal ag enwau a dyddiadau geni’r rhieni.
Beth sydd angen i’r sawl sy’n cadarnhau pwy ydych chi ei wneud
Fel y person sy’n cadarnhau hunaniaeth rhywun, byddwch yn derbyn e-bost gan Swyddfa Basbort EF. Mae’r e-bost yn cynnwys dolen a chyfeirnod i fewngofnodi ar-lein.
Bydd angen i chi:
- Roi’r cyfeirnod o’r e-bost a dyddiad geni’r ymgeisydd
- Rhowch fanylion eich pasbort a’ch cyfeiriad cyfredol
- Ateb ambell gwestiwn am sut ydych chi’n adnabod yr ymgeisydd
- Gadarnhau rhai o fanylion yr ymgeisydd
- Gwirio llun pasbort digidol
Mae hyn yn cymryd oddeutu 10 munud.
Os yw’r ymgeisydd yn blentyn, bydd angen i chi ateb ambell gwestiwn am sut ydych chi’n adnabod y person sy’n gwneud y cais. Mae angen i ni gadarnhau bod gan y person sy’n ymgeisio gyfrifoldeb rhiant.
Os nad ydych yn ddeiliad pasbort y DU neu Iwerddon bydd angen i chi roi llungopi lliw o dudalen llun eich pasbort i’r ymgeisydd.