Yr hyn sydd angen i chi anfon
Dogfennau’r ymgeisydd
Anfonwch y canlynol:
- hen basbort
Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol, mae angen i chi anfon dogfennau ychwanegol (yn agor mewn tab newydd):
- cynnwys teitl proffesiynol, neu unrhyw deitl arall ar eich pasbort
- ymgeisio am basbort Gwladolyn Prydeinig Tramor (BNO)
- ymgeisio am basbort Person o dan Amddiffyniad Prydain
- newid eich rhywedd ar eich pasbort
- adnewyddu pasbort a gyhoeddwyd am 1 flwyddyn neu lai
- newid statws cenedligrwydd Prydeinig yn eich pasbort i ddinesydd Prydeinig
Dydy fy nogfennau ddim mewn Cymraeg na Saesneg
Os nad yw’ch dogfennau yn Gymraeg na Saesneg, bydd angen i chi gael cyfieithiad ardystiedig. Anfonwch y ddogfen wreiddiol a chyfieithiad ardystiedig atom.