Ymgeisio yn rhan o deulu neu gwpl

Os ydych chi’n ymgeisio yn rhan o deulu neu gwpl, anfonwch yr holl ddogfennau gyda’i gilydd yn yr un amlen.

Mae hyn yn helpu cadw eich ceisiadau gyda’i gilydd, sy’n bwysig os oes rhaid i chi anfon yr un ddogfen ar gyfer mwy nag un cais.

Sut i anfon eich dogfennau

Rhowch yr holl ddogfennau gyda’i gilydd mewn amlen gref. Rhestrwch bob cyfeirnod cais ar y blaen, uwchben y cyfeiriad.

Ble i anfon eich dogfennau

Os yw pob person yn y grŵp wedi cael cyfeiriad gwahanol, gallwch anfon y dogfennau i unrhyw un o’r cyfeiriadau rydym wedi rhoi i chi.

Os oes rhaid i rywun gael cadarnhau ei hunaniaeth

Peidiwch ag anfon y dogfennau nes bydd ei hunaniaeth wedi ei gadarnhau. Byddwch yn cael e-bost pan fydd hynny wedi ei gwblhau ac rydym yn barod i dderbyn y dogfennau.