Darparwch cymaint o wybodaeth â phosibl. Os nad ydych chi’n gwybod unrhyw beth am eich rhiant arall, gadewch eu manylion yn wag.
Bydd angen i chi ddweud pam na allwch chi ddarparu eu manylion.
Rydym yn gofyn am fanylion eich rhieni i wirio eich hawliad i genedligrwydd Prydeinig ac i gadarnhau pwy ydych chi.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl. Os nad ydych yn gwybod eu manylion, bydd angen i chi esbonio pam.
Darparwch cymaint o wybodaeth â phosibl. Os nad ydych chi’n gwybod unrhyw beth am eich rhiant arall, gadewch eu manylion yn wag.
Bydd angen i chi ddweud pam na allwch chi ddarparu eu manylion.
Rhowch fanylion eich rhieni mabwysiadol.
Ar gyfer cyplau un rhyw, rhiant 1 yw’r sawl sydd a restrir ail ar y dystysgrif fabwysiadu. Y rhiant arall yw rhiant 2.
Os mai dim ond un rhiant mabwysiadol sydd gennych chi, rhowch ei fanylion/manylion a gadael yr adran ar gyfer y rhiant arall yn wag. Bydd angen i chi roi gwybod i ni ei fod yn fabwysiad unigol.
Does dim rhaid i chi ddweud wrthym os cawsoch eich cenhedlu trwy roi sberm a’ch geni yn y Deyrnas Unedig. Rhowch fanylion y rhieni fel y maent ar y dystysgrif geni.
Ar gyfer cyplau un rhyw, rhiant 1 yw’r sawl a roddodd enedigaeth. Y rhiant arall yw rhiant 2.
Efallai y bydd rheolau gwahanol os cawsoch eich cenhedlu trwy roi sberm a’ch geni tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Rhowch fanylion eich rhieni fel y maent ar y gorchymyn rhieniol.
Ar gyfer cyplau un rhyw, rhiant 1 yw’r sawl sydd wedi ei restrir gyntaf ar y gorchymyn rhieniol. Y rhiant arall yw rhiant 2.
Bydd angen i chi wirio’r rheolau am fenthyg croth a rhieni cyfreithiol os nad oes ganddynt orchymyn rhieniol.