Ble i lofnodi eich pasbort
Llofnodwch eich pasbort newydd cyn gynted ag y byddwch yn ei gael. Ni allwch ei ddefnyddio heb wneud hyn.
Bydd angen i chi lofnodi ar linell ‘llofnod y deiliad’ gyda beiro ddu blaengrwn. Peidiwch ag arwyddo islaw’r llinell.
Pan na fydd angen i chi lofnodi
Nid oes rhaid i chi lofnodi eich pasbort newydd os:
- ydych yn 11 neu’n iau
- rydych wedi dweud wrth Swyddfa Basbort EF na allwch lofnodi oherwydd anabledd
Bydd eich pasbort yn dangos ‘nad oes rhaid i’r deiliad lofnodi’.