Telerau ac Amodau

Trwy wneud cais am basbort rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau hyn.

Rydych yn cadarnhau eich bod chi neu’r ymgeisydd:

  • yn wladolyn Prydeinig a heb golli nac ildio’ch statws cenedlaethol
  • heb dorri telerau gorchymyn llys drwy wneud y cais hwn
  • heb fod arnoch chi unrhyw arian i lywodraeth y DU ar gyfer costau dychwelyd, er enghraifft pan yw’r llywodraeth yn talu i’ch cael chi adref o dramor
  • yn deall trwy wneud cais yn wirfoddol am basbort y DU y gallech golli dinasyddiaeth gwlad arall
  • yn addo dweud wrth Swyddfa Basbort EF os cawsoch eich geni trwy fenthyg croth

Os mai cais am basbort plentyn yw hwn, rydych yn cadarnhau:

  • mae gennych gyfrifoldeb rhiant
  • byddwch yn anfon unrhyw orchmynion llys sy’n ymwneud â phreswylio’r plentyn, ei gyswllt neu ei symud o’r DU

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth cyn y gallwn barhau â’ch cais.

Rhybudd Os byddwch yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i gael pasbort gallech gael eich erlyn.

Eich llun newydd

Rhaid i’ch llun newydd edrych fel chi ac ni ddylai fod wedi’i newid mewn unrhyw ffordd. Rhaid ei fod wedi ei dynnu yn y mis diweddaf.

Efallai y bydd lluniau sy’n pasio ein gwiriadau ar-lein yn dal yn anaddas ar gyfer eich pasbort newydd. Efallai y byddwn yn gofyn am lun digidol neu bapur gwahanol.

Eich pasbort newydd

Pan fyddwch chi’n cael eich pasbort newydd bydd rhaid i chi ei lofnodi â beiro du. Ni allwch ei ddefnyddio nes i chi wneud hynny.

Os na allwch lofnodi’ch enw, rhowch esboniad cyn i chi dalu. Bydd eich pasbort yn dangos ‘nid oes angen i’r deiliad lofnodi’.

Ffi pasbort

Rheolir taliadau gan gwmni o’r enw Worldpay. Maent yn gyfrifol am argaeledd eu gwasanaeth.

Gwneud cais gyda Gwirio ac Anfon Digidol Swyddfa’r Post

Rheolir taliadau gan Swyddfa’r Post. Bydd angen i chi dalu am y cais am basbort, ynghyd â ffi Swyddfa’r Post yng nghangen Swyddfa’r Post lle rydych yn gwneud cais.

Pasbortau sydd wedi’u colli, eu dwyn neu eu difrodi

Rydych yn cadarnhau y byddwch chi neu’r ymgeisydd yn:

  • cysylltu â Swyddfa Basbort EF ar unwaith os bydd yr hen basbort yn cael ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi ar ôl i chi wneud cais
  • dychwelyd pasbort coll i swyddfa basbort y DU os daw i’ch meddiant

Gwneud cais gyda’r gwasanaeth safonol

Cansladau ac ad-daliadau

Ni chewch ad-daliad os:

  • mae eich cais yn cael ei ohirio oherwydd bod angen i ni wneud gwiriadau ychwanegol
  • nid ydym wedi derbyn eich hen basbort neu ddogfennau o fewn 90 diwrnod i gyflwyno eich cais
  • rydym yn tynnu’ch cais yn ôl oherwydd nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani
  • rydych yn canslo’ch cais neu nid oes gennych hawl i basbort

Gallwch ganslo’ch cais unrhyw bryd ond bydd angen i chi ei wneud yn ysgrifenedig. Cysylltwch â ni i ddysgu beth sydd angen i chi ei wneud.

Gwneud cais gyda’r Llwybr Carlam 1 wythnos neu Gwasanaeth Premiwm 1 diwrnod

Newidiadau a chansladau

I newid neu ganslo’ch apwyntiad, cysylltwch â ni. Ond os yw eich apwyntiad lai na 48 awr i ffwrdd:

  • ni fyddwch yn gallu ei newid
  • bydd tâl gweinyddol o £30 yn cael ei dynnu o’ch ad-daliad o’r ffi os byddwch yn ei ganslo

Ad-daliadau

Bydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu credydu i’r cerdyn talu gwreiddiol ymhen 10 diwrnod gwaith.

Gwasanaeth Premiwm 1 diwrnod

I ddefnyddio’r gwasanaeth Premiwm 1 diwrnod mae’n rhaid i chi fynychu apwyntiad mewn swyddfa basbort i ollwng eich hen basbort, a dychwelyd i’r un swyddfa 4 awr yn ddiweddarach i gasglu eich pasbort newydd.

Bydd eich cais yn cael ei wrthod a byddwch yn cael ad-daliad llawn os:

  • rydych yn dweud wrthym fwy na 48 awr cyn eich apwyntiad eich bod wedi colli, dwyn neu ddifrodi’ch pasbort ers i chi wneud eich cais

Bydd eich cais yn cael ei wrthod a bydd tâl gweinyddol o £30 yn cael ei dynnu o’ch ad-daliad os:

  • nad ydych yn dweud wrthym eich bod wedi colli, dwyn neu ddifrodi eich pasbort ers i chi wneud eich cais, neu rydych yn rhoi gwybod i ni o fewn 48 awr i’ch apwyntiad
  • rydych eisoes wedi cyflwyno cais am basbort
  • rydych yn 16 oed neu’n hŷn ac nid ydych erioed wedi cael pasbort Prydeinig
  • mae eich pasbort yn llai dilys nag arfer (mae gan oedolion 16 neu hŷn basbort 10 mlynedd fel arfer, mae gan blant 15 neu iau basbort 5 mlynedd fel arfer)
  • rydych yn gwneud cais ar ran rhywun na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain
  • rydych yn adnewyddu pasbort diplomyddol neu swyddogol

Bydd eich cais yn cael ei israddio i’r gwasanaeth safonol a byddwch yn gymwys i gael ad-daliad o’r gwahaniaeth rhwng y Premiwm 1 diwrnod a’r ffi safonol os:

  • nad ydych yn ddinesydd Prydeinig nac yn ddeiliad Prydeinig, ond mae gennych fath gwahanol o genedligrwydd Prydeinig, er enghraifft rydych yn ddinesydd Prydeinig (tramor)

Ni fyddwch yn cael eich pasbort newydd 4 awr yn ddiweddarach nac yn cael ad-daliad os:

  • yw eich hen basbort wedi’i adrodd yn flaenorol fel un sydd ar goll neu wedi’i ddwyn ac wedi’i ganslo
  • rydych wedi newid eich enw ers eich pasbort diwethaf
  • yw eich cais yn cael ei ohirio am fod angen i ni wneud gwiriadau ychwanegol
  • rydyn ni’n eich symud i wasanaeth gwahanol ac mae’ch cais yn cymryd mwy o amser, er enghraifft rydych chi’n cael eich symud o Drac Premiwm 1 Diwrnod i Drac Cyflym 1 wythnos

Bydd eich cais yn cael ei wrthod ac ni chewch ad-daliad os:

  • rydym yn tynnu eich cais yn ôl am nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani
  • nad oes gennych hawl i gael pasbort
  • rydych yn colli eich apwyntiad - bydd angen i chi dynnu eich cais yn ôl, gwneud cais a thalu eto

Bydd pasbortau heb eu casglu ond yn cael eu cadw am 28 diwrnod cyn iddynt gael eu canslo. Ni chewch ad-daliad. Bydd yn rhaid i chi wneud cais a thalu eto.

Gwasanaeth Llwybr Cyflym 1 wythnos

Bydd eich cais yn cael ei wrthod a bydd tâl gweinyddol o £30 yn cael ei dynnu o’ch ad-daliad os:

  • rydych eisoes wedi cyflwyno cais am basbort
  • rydych yn 16 oed neu’n hŷn ac nid ydych erioed wedi cael pasbort Prydeinig

Bydd eich cais yn cael ei israddio i’r gwasanaeth safonol a byddwch yn gymwys i gael ad-daliad o’r gwahaniaeth rhwng y Llwybr Carlam 1 diwrnod a’r ffi safonol os:

  • rydych yn gwneud cais am basbort plentyn cyntaf o dan Hawliau Cytuniad
  • mae eich hawliad i genedligrwydd Prydeinig yn seiliedig ar wasanaeth coron neu gymunedol eich rhieni

Ni fyddwch yn cael eich pasbort newydd o fewn 1 wythnos na chael ad-daliad os:

  • yw eich cais yn cael ei ohirio am fod angen i ni wneud gwiriadau ychwanegol
  • rydyn ni’n eich symud i wasanaeth gwahanol ac mae’ch cais yn cymryd mwy o amser, er enghraifft rydych chi’n cael eich symud o Drac Cyflyn 1 wythnos i safonol

Bydd eich cais yn cael ei wrthod ac ni chewch ad-daliad os:

  • rydym yn tynnu eich cais yn ôl am nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani
  • nad oes gennych hawl i gael pasbort
  • rydych yn colli eich apwyntiad - bydd angen i chi dynnu eich cais yn ôl, gwneud cais a thalu eto

Yr apwyntiad

Rhaid i chi ddod ag unrhyw ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt gyda chi – bydd eich apwyntiad yn cael ei aildrefnu os na fyddwch yn gwneud hynny.

Gallwch anfon rhywun arall i’ch apwyntiad ar eich rhan. Os ydynt yn casglu’ch pasbort newydd, bydd angen iddynt ddod â/ag:

  • eich hen basbort
  • llythyr wedi’i lofnodi a’i ddyddio oddi wrthych chi, yn cadarnhau eu henw llawn ac yn rhoi caniatâd iddynt gasglu’ch pasbort
  • prawf o bwy ydynt, er enghraifft trwydded yrru neu basbort