Gwasanaethau brys

Sut i wneud cais

Mae dwy ffordd o gael pasbort ar frys. Ar gyfer y ddau wasanaeth bydd angen i chi drefnu apwyntiad mewn swyddfa basbortau.

Byddwn ni’n gofyn rhai cwestiynau i chi ac yn dweud wrthych pa wasanaethau rydych yn gymwys ar eu cyfer. Yna byddwch yn gallu gweld a threfnu apwyntiad.

Allwch chi ddim defnyddio’r gwasanaethau hyn os ydych yn gwneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf.

Ffyrdd o wneud cais

Premiwm 1 diwrnod

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn dim ond os ydych yn adnewyddu pasbort oedolyn a gyhoeddwyd ar ôl 31 Rhagfyr 2001.

Dogfennau:

Bydd angen i chi fynd â’ch hen basbort gyda chi i gael ei wirio. Byddwn ni’n ei ddychwelyd atoch yn yr apwyntiad.

Pasbort newydd:

Casglwch eich pasbort newydd yn eich apwyntiad.

Cost:

£207.50 (neu £219.50 am basbort teithiwr aml 54 tudalen)

Am y gwasanaeth 1 diwrnod

Ni fyddwch yn cael eich pasbort newydd o fewn 1 diwrnod nac yn cael ad-daliad os:

  • mae’ch hen basbort wedi’i adrodd yn flaenorol fel un sydd ar goll neu wedi’i ddwyn ac wedi’i ganslo
  • rydych wedi newid eich enw ers eich pasbort diwethaf
  • mae’ch cais wedi’i ohirio oherwydd bod angen i ni wneud gwiriadau ychwanegol
  • rydym yn eich symud i wasanaeth gwahanol ac mae’ch cais yn cymryd mwy o amser, er enghraifft rydych chi’n cael eich symud o Bremiwm 1 diwrnod i Llwybr Carlam 1 wythnos

Bydd eich cais yn cael ei wrthod ac ni chewch ad-daliad os:

  • rydym yn tynnu’ch cais yn ôl oherwydd nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani
  • nid oes gennych hawl i basbort
  • rydych yn colli’ch apwyntiad - bydd rhaid i chi wneud cais a thalu eto

Llwybr Carlam 1 wythnos

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i adnewyddu, amnewid neu newid pasbort oedolyn neu blentyn. Gallwch hefyd wneud cais am basbort cyntaf i blentyn.

Ceisiadau oedolion

Dogfennau:

Bydd angen i chi ddod â’ch dogfennau i’ch apwyntiad i gael eu gwirio. Byddwn ni’n eu dychwelyd atoch yn yr apwyntiad.

Pasbort newydd:

Bydd eich pasbort newydd yn cael ei ddanfon i’ch cartref 1 wythnos yn ddiweddarach gan negesydd.

Cost:

£166.50 am basbort safonol (neu £178.50 am basbort teithiwr aml 54 tudalen)

Ceisiadau plant

Dogfennau:

Bydd angen i chi adael eich dogfennau gyda ni. Byddwn ni’n eu hanfon yn ôl atoch drwy’r post, neu gallwch dalu’n ychwanegol i’w dychwelyd trwy ddanfoniad diogel.

Pasbort newydd:

Bydd eich pasbort newydd yn cael ei ddanfon i’ch cartref 1 wythnos yn ddiweddarach gan negesydd.

Cost:

£135.50 am basbort safonol (neu £147.50 am basbort teithiwr aml 54 tudalen)

Am y gwasanaeth 1 wythnos

Ni fyddwch yn cael eich pasbort newydd o fewn 1 wythnos nac yn cael ad-daliad os:

  • mae’ch cais yn cael ei ohirio oherwydd bod angen i ni wneud gwiriadau ychwanegol
  • rydym yn eich symud i wasanaeth gwahanol ac mae’ch cais yn cymryd mwy o amser, er enghraifft rydych chi’n cael eich symud o Llwybr Carlam 1 wythnos i safonol

Bydd eich cais yn cael ei wrthod ac ni chewch ad-daliad os:

  • rydym yn tynnu’ch cais yn ôl oherwydd nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani
  • nid oes gennych hawl i basbort
  • rydych yn colli’ch apwyntiad - bydd rhaid i chi wneud cais a thalu eto

Lleoliadau swyddfeydd pasbort

Canfod swyddfa basbortau (yn Saesneg yn unig) (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer eich apwyntiad Premiwm 1 diwrnod neu Llwybr Carlam 1 wythnos.

Os na allwch fynd i’ch apwyntiad

Gall rhywun arall fynd i’ch apwyntiad ar eich rhan.

Os ydynt yn casglu eich pasbort newydd, bydd angen iddynt ddod ag:

  • eich hen basbort
  • llythyr wed’i lofnodi a’i ddyddio gennych chi, yn cadarnhau eu henw llawn ac yn rhoi caniatâd iddynt gasglu eich pasbort newydd
  • tystiolaeth o bwy ydynt, er enghraifft trwydded yrru neu basbort

Ymgeisio yn Gymraeg

Dewch i gyswllt â ni os hoffech wneud cais am y gwasanaeth 1 wythnos Llwybr Cyflym yn Gymraeg. Bydd angen i chi gael ffurflen gais Gymraeg gan Swyddfa’r Post.