Sut i gymryd llun pasbort digidol

Rhybudd Os nad yw eich llun yn cyd-fynd â’r rheolau gallech wynebu problemau gyda’ch cais neu pan fyddwch yn teithio.

Lluniau ar gyfer oedolion

Defnyddiwch gefndir plaen, lliw golau

  • dim gwead na phatrymau
  • dim gwrthrychau y tu ôl i chi

Golau cyson a dim cysgodion

  • golau sefydlog - dim cysgodion ar eich wyneb na’r tu ôl i chi
  • mae’n well defnyddio golau haul naturiol, er enghraifft wynebu ffenestr

Sefwch yn y ffordd gywir

  • sefwch 0.5 medr i (1.5 troedfedd) ffwrdd o’ch cefndir (mae hyn yn lleihau cysgodion)
  • dylai’r person sy’n tynnu’r llun sefyll 1.5 medr (5 troedfedd) i ffwrdd oddi wrthych
  • mae angen i’ch pen, ysgwyddau a rhan uchaf y corff fod yn y llun
  • peidiwch â thocio eich llun - bydd hynny’n cael ei wneud i chi

Dim mynegiant a’r wyneb i gyd yn y golwg

  • wynebu’r blaen i fyw llygaid y camera
  • peidiwch â gwenu na gwgu - llygaid ar agor gyda’r geg ar gau
  • dylai eich llun fod yn debyg iawn i chi ac wedi ei gymryd o fewn y mis diwethaf

Dim penwisg

  • oni bai ei bod am resymau crefyddol neu feddygol

Llygaid i’w gweld yn glir

  • gwallt i ffwrdd o’ch wyneb a llygaid
  • tynnwch eich sbectol (os allwch chi)

Os oes raid i chi gadw eich sbectol ymlaen:

  • rhaid i’ch llygaid fod yn weladwy heb unrhyw ddisgleirdeb nac adlewyrchiadau
  • dim sbectol haul na sbectol gydag arlliw

Edrychwch ar ‘Sut i gymryd llun pasbort digidol’

Gweld trawsgrifiad

Gallwch nawr dynnu llun eich pasbort gartref gyda ffrind.

Mae’n gyflym ac yn hawdd, gan roi mwy o amser i chi baratoi ar gyfer eich teithiau.

Defnyddiwch gefndir plaen

Mae wal llwyd golau neu hufen yn gweithio orau a gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw wrthrychau y tu ôl i chi.

Cael y goleuo’n iawn

Golau naturiol sydd orau ond gallwch ddefnyddio goleuadau eraill. Gwnewch yn siŵr nad yw’r golau yn taflu cysgodion ar eich wyneb.

Sefwch yn y safle cywir

Mae angen i chi sefyll i ffwrdd o’r cefndir i osgoi cysgodion y tu ôl i chi. Mae angen i’ch ffrind allu ffitio’ch pen, ysgwyddau a rhan uchaf eich corff yn y llun.

Cadwch eich wyneb yn glir

Gwnewch yn siŵr bod eich wyneb cyfan yn weladwy. Cadwch eich gwallt i ffwrdd oddi wrth eich wyneb ac wedi’i frwsio i lawr. Gellir gadael penwisg a wisgir am resymau crefyddol neu feddygol ymlaen.

Nawr paratowch

Edrychwch yn syth ar y camera a cheisiwch gadw golwg plaen. Mae gwenu ar ddamwain yn gamgymeriad cyffredin, ac mae eraill yn cynnwys: gwallt yn rhwystro, cysgodion ar eich wyneb, sbectol yn gorchuddio’r llygaid, llacharedd ar sbectol a lluniau aneglur. Peidiwch â phoeni os bydd yn cymryd ychydig o geisiadau i’w gael yn iawn.

Pan gewch lun da lanlwythwch ef ar-lein a chwblhewch eich cais. Nawr ymlaciwch a chynllunio ar gyfer eich teithiau.

I gael rhagor o wybodaeth am basbortau’r DU ewch i www.gov.uk

Nid wyf yn gallu bodloni’r rheolau
Gallwch ddefnyddio llun o hyd os na allwch fodloni’r rheolau lluniau oherwydd crefydd neu reswm meddygol. Byddwn yn gofyn i chi esbonio’r amgylchiadau pan fyddwch yn cyflwyno eich llun.

Rwyf wedi treulio 20 munud ar y dudalen hon ac mae angen mwy o amser arnaf. Rhowch 30 munud arall i mi.